Y prosiect

Byddai’r datblygiad arfaethedig yn cynnwys adeiladu, gweithredu, cynnal a chadw a datgomisiynu cyfleuster fferm solar sy’n gysylltiedig â’r grid.

Wedi’i leoli rhwng Casnewydd, Ponthir a Chaerllion, byddai gan y safle’r capasiti i gynhyrchu hyd at 46 MW o drydan, digon i bweru’r hyn sy’n cyfateb i hyd at 17,265 o gartrefi teuluol nodweddiadol y flwyddyn (statista.com), ac arbed hyd at 495 tunnell oCO₂e (gan dybio bod ffactor allyriadau CO2 y DU o’r grid yn 0.124 kg o CO₂)e/kWh) y flwyddyn (carbonbrief.org).

Mae TotalEnergies yn gweithio mewn partneriaeth â Dŵr Cymru Welsh Water i ddatgarboneiddio ei weithrediadau. Bydd Dŵr Cymru Welsh Water  yn prynu ac yn defnyddio 100% o’r ynni a gynhyrchir gan Fferm Solar Candwr, bydd cyfran yn cael ei ddefnyddio’n uniongyrchol yng Ngwaith Trin Court Farm, gyda gweddill yr ynni a gynhyrchir yn cael ei gyfeirio i safleoedd Dŵr Cymru Welsh Water eraill o gwmpas Cymru trwy’r Grid Cenedlaethol.

Mae lleihau dibyniaeth Dŵr Cymru ar y Grid Cenedlaethol hefyd yn rhoi mwy o reolaeth dros gostau gweithredol. Byddai hyn yn amddiffyn rhag prisiau ynni sy’n amrywio ac yn helpu i reoli biliau cwsmeriaid ar adeg o gostau cynyddol a thrwy hynny’n creu manteision lleol ychwanegol.

Mae Dŵr Cymru wedi ymrwymo i leihau allyriadau carbon o 90% erbyn 2030 a ‘Sero Net’ erbyn 2040. Byddai’r prosiect hwn yn gwneud cyfraniad gwerthfawr tuag at gyrraedd y targedau hyn.



Mae ein gosodiad safle dangosol yn dangos ein cynlluniau ar gyfer Fferm Solar Candwr. Mae’n dangos ble gellid lleoli’r paneli solar a’r seilwaith allweddol o fewn ffin y prosiect, yn ogystal â thir yr ydym yn rhagweld ei ddefnyddio ar gyfer bioamrywiaeth a mesurau gwella amgylcheddol eraill. Mae’r safle wedi’i gynllunio i leihau’r effeithiau ar safleoedd treftadaeth, coed, gwrychoedd, coetiroedd a Hawliau Tramwy Cyhoeddus (PRoW) presennol.