Trydan glân i dros 45,000 o gartrefi teuluol, bob blwyddyn

Rhowch eich cyfeiriad e-bost i gael y wybodaeth ddiweddaraf am y cynigion. Dim ond at ddibenion darparu gwybodaeth a diweddariadau ar Fferm Solar Candwr y bydd unrhyw gyfeiriadau e-bost a ddarperir yn cael eu defnyddio.

Mae rhagor o wybodaeth am y cynigion a’r broses ymgynghori ar gael ar Wefan Cynllunio Seilwaith Cenedlaethol y Llywodraeth.

Mae TotalEnergies wedi bod yn bresennol yn y DU ers dros 60 mlynedd. Yn ystod y cyfnod hwnnw, rydym wedi tyfu i fod yn un o’r cwmnïau aml-ynni mwyaf yn y byd. Rydym wedi cael ein hintegreiddio’n llawn ar draws pob sector o’r busnes ynni, o archwilio a chynhyrchu i weithgynhyrchu a marchnata cynhyrchion a gwasanaethau ynni.

Mae ein 100,000 o weithwyr ar draws 130 o wledydd wedi ymrwymo i gynhyrchu ynni gwell sy’n fwy fforddiadwy, dibynadwy, glanach, a hygyrch i gynifer o bobl â phosib.

Er mwyn cyflawni ein huchelgais o fod yn chwaraewr o’r radd flaenaf mewn trawsnewid ynni, rydym yn arallgyfeirio ein cynnig ynni i ddarparu’r ynni adnewyddadwy ac wedi’i ddatgarboneiddio y bydd ei angen ar ein cwsmeriaid yn y dyfodol.

Rydym yn parhau i ehangu yn y farchnad ynni adnewyddadwy (gwynt a solar), gyda’r nod o ddod yn un o bum cynhyrchydd trydan adnewyddadwy gorau’r byd. Ein nod yw cynhyrchu 100 TWh y flwyddyn o drydan yn fyd-eang erbyn 2030.

Er mwyn diwallu galw cynyddol y DU am ynni gyda llai o allyriadau carbon, rydym yn gwneud buddsoddiadau mawr mewn cynhyrchu trydan o ffynonellau adnewyddadwy.