Pam mae angen solar arnom ni?

Mae pŵer solar yn rhan hanfodol o strategaeth Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru i gyflawni sero net erbyn 2050 ac i ddarparu diogelwch ynni. Mae prosiectau solar ar y ddaear yn chwarae rhan allweddol wrth gyflawni’r nodau hyn, ar ôl cael eu sefydlu fel blaenoriaeth genedlaethol hollbwysig oherwydd y manteision diogelwch ynni, datgarboneiddio a fforddiadwyedd y maent yn eu darparu.

Mae solar yn darparu ffynhonnell ynni adnewyddadwy carbon isel sy’n rhatach ac yn gyflymach i’w defnyddio na dewisiadau eraill. Mae ynni solar yn un rhan o naw o gost nwy ac yn llai na thraean o ynni niwclear, gan ei wneud yn hanfodol ar gyfer lleihau allyriadau a darparu ynni fforddiadwy.

Ar hyn o bryd mae ffermydd solar yn cyfrif am tua 0.1% o gyfanswm arwynebedd tir y DU. Byddai targedau’r Llywodraeth ar gyfer cynnydd pum gwaith mewn ynni solar yn arwain at 0.3% o arwynebedd tir y DU yn cael ei ddefnyddio gan ynni solar (Carbon Brief, 2022). Mae hyn yn cyfateb i tua hanner y lle a ddefnyddir gan gyrsiau golff ar hyn o bryd. Mae pŵer solar eisoes yn cael effaith sylweddol. Rhwng Mehefin ac Awst 2024, darparodd hyd at 8% o drydan y DU, yn ôl tablau ynni adnewyddadwy Tueddiadau Ynni’r Llywodraeth (ODS)**.

*Gan dybio 15% capasiti/ffactor llwyth ar draws un flwyddyn yn seiliedig ar y defnydd trydan domestig cyfartalog fesul cartref (wedi’i gywiro ar gyfer tymheredd) yn unol â’r Defnydd Ynni yn y DU (a gyhoeddwyd ym mis Medi 2024, Tabl C9 o ECUK: Tablau data defnydd).

**Tueddiadau Ynni Rhagfyr 2024, Yr Adran Diogelwch Ynni a Sero Net (gov.uk/government/statistics/energy-trends-section-6-renewables)


Buddion cymunedol

Cronfa budd cymunedol

Mae Fferm Solar Candwr yn falch o gyhoeddi cronfa budd cymunedol arfaethedig gychwynnol am hyd oes weithredol y safle, sef 40 mlynedd.

Byddwn yn ymgysylltu â’r Grŵp Cyswllt Cymunedol ynghylch sut y gellid gwario’r gronfa budd cymunedol, yn ogystal â sut y dylid llywodraethu’r Gronfa Budd Cymunedol.


Manteision amgylcheddol

Mae’r fferm solar yn rhoi’r cyfle i gadw’r tir yn rhydd rhag arferion ffermio dwys a chemegau, gan ganiatáu i rywogaethau ffynnu ac i ansawdd y pridd wella. Bydd Budd Net i Fioamrywiaeth (BNB) yn cael ei gyflawni drwy wrychoedd newydd a gwell, cynefinoedd, plannu coed yn ogystal ag ardaloedd gwella bioamrywiaeth.

Bydd y gwelliannau hyn yn cynnwys: Plannu newydd i gefnogi ystod amrywiol o rywogaethau di-asgwrn-cefn ac annog rhywogaethau newydd ar hyd ffin y safle; Coridorau bywyd gwyllt a gosod blychau nythu ystlumod ac adar, tomenni coed, a chychod gwenyn ar hyd ffin y safle.

Rydym yn rhagweld y bydd y mesurau hyn yn arwain at fudd net i fioamrywiaeth y tu hwnt i ofynion gorfodol Llywodraeth Cymru.