Y broses gynllunio
Yng Nghymru, mae amryw o gyfundrefnau caniatáu ar waith ar gyfer cynlluniau ynni. Fel arfer, awdurdodau cynllunio lleol sy’n penderfynu ar brosiectau ynni llai, tra bod prosiectau seilwaith mwy yn cael eu hystyried ar hyn o bryd naill ai drwy’r weithdrefn Datblygiad o Arwyddocâd Cenedlaethol (DNS); y weithdrefn Gorchymyn Caniatâd Seilwaith (ICO) (sy’n disodli’r weithdrefn DNS yn raddol), neu’r weithdrefn Gorchymyn Caniatâd Datblygu (DCO). Mae maint y prosiect yn dylanwadu ar y weithdrefn benderfynu pan gyflwynir ceisiadau i’w penderfynu.
Gan fod gan Fferm Solar Candwr gapasiti cynhyrchu solar disgwyliedig o tua 46MW, bydd yn cael ei ystyried drwy’r system DNS.
Mae’r broses DNS yn sicrhau bod gan drigolion lleol fwy o lais ar y prosiect, gan fod gofyniad lleiaf yn y cam cyn ymgeisio am gyhoeddusrwydd ac ymgynghori am o leiaf chwe wythnos.
Ar ôl cynnal ymgynghoriadau cyhoeddus a mireinio’r cynigion, mae’n rhaid i unrhyw un sy’n bwriadu adeiladu prosiect seilwaith DNS gyflwyno cais yn uniongyrchol i Lywodraeth Cymru: Penderfyniadau Cynllunio ac Amgylchedd Cymru (PCAC).
PCAC sy’n rheoli’r broses ymgeisio am DNS a byddant yn penodi un neu fwy o Arolygwyr Cynllunio i archwilio’r cais. Ar gyfer cynlluniau DNS dros 50MW, Gweinidogion Cymru fydd yn gwneud y penderfyniad terfynol yn seiliedig ar adroddiad gan yr Arolygydd Cynllunio. Ar gyfer ceisiadau rhwng 10MW a 50MW, yr Arolygydd Cynllunio fydd yn gwneud y penderfyniad terfynol.
Mae rhagor o fanylion am y broses hon ar gael ar wefan DNS gan ddefnyddio’r ddolen isod.
Mae Datblygiad o Arwyddocâd Cenedlaethol (DNS) yn cyfeirio at brosiectau seilwaith sy’n cael eu hystyried o arwyddocâd cenedlaethol. Mae’r prosiectau hyn yn gofyn am broses gynllunio a chymeradwyo arbennig er mwyn derbyn cymeradwyaeth o dan Ddeddf Cynllunio (Cymru) 2015 sy’n diwygio’r Ddeddf Cynllunio Gwald a Thref 1990 (‘y Ddeddf’), a’r Rheoliadau Datblygiadau o Arwyddocâd Cenedlaethol (Cymru) 2016 (fel y’u diwygiwyd) a Rheoliadau dilynol.
Mae prosiectau cynhyrchu ynni yng Nghymru sydd â chapasiti cynhyrchu rhwng 10 MW a 350 MW yn DNS ac mae’n ofynnol iddynt gael cymeradwyaeth drwy’r system DNS.
Ar ôl cynnal ymgynghoriadau a mireinio’r cynigion, rhaid i unrhyw un sy’n bwriadu adeiladu DNS gyflwyno cais i Benderfyniadau Cynllunio ac Amgylchedd Cymru (PCAC).
Yna bydd PCAC yn cyhoeddi ac yn ymgynghori ar y cais dros gyfnod sylwadau o bum wythnos. Yn dilyn hyn, bydd Arolygydd yn cael ei benodi i archwilio’r cais. Rhaid i’r Arolygydd gyflwyno ei adroddiad i Weinidogion Cymru o fewn 24 wythnos.
Ar gyfer cynlluniau DNS dros 50MW, bydd adroddiad yr Arolygwyr Cynllunio yn cael ei gyhoeddi i Weinidog Cymru, a fydd yn gwneud y penderfyniad yn y pen draw. Ar gyfer ceisiadau rhwng 10MW a 50MW, yr Arolygydd Cynllunio fydd yn gwneud y penderfyniad terfynol.
Gan fod gan Fferm Solar Candwr gapasiti cynhyrchu solar disgwyliedig o tua 46MW, bydd yn cael ei ystyried drwy’r system DNS. Darparwyd hysbysiad ffurfiol o fwriad i gyflwyno cais DNS i Benderfyniadau Cynllunio ac Amgylchedd Cymru (PCAC) cyn 15 Rhagfyr 2025, sef y dyddiad y daeth cyfundrefn newydd Deddf Seilwaith (Cymru) i rym. Mae hyn yn sicrhau bod y prosiect yn parhau o dan y broses gydsynio DNS bresennol yn ystod y cyfnod trosglwyddo, gan ddarparu llwybr clir ar gyfer penderfyniad.
Un o ofynion allweddol y broses DNS yw i ymgeiswyr ymgynghori â rhanddeiliaid a’r gymuned cyn cyflwyno cais. Ar ben hynny, bydd PCAC hefyd yn cyhoeddi ac yn ymgynghori ar y cais dros gyfnod sylwadau o bum wythnos. Yn ein cais DNS, mae’n ofynnol i ni grynhoi’r adborth a dderbyniwyd a’n hymatebion i’r adborth.
Grŵp cyswllt cymunedol
Byddwn yn gweithio gyda’r Cynghorau Cymuned lleol i sefydlu Grŵp Cyswllt Cymunedol gyda’r nod o sicrhau deialog agored rhwng y gymuned a thîm y prosiect, gan fynd i’r afael â phryderon a sicrhau cyfathrebu tryloyw.
Bydd hyn yn cael ei sefydlu wrth i’r prosiect ddatblygu.
