Pam mae angen solar arnom?

Mae pŵer solar yn rhan hanfodol o strategaeth Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru i gyflawni sero net erbyn 2050 ac i ddarparu diogelwch ynni. Mae prosiectau solar ar y ddaear yn chwarae rhan allweddol wrth gyflawni’r nodau hyn, ar ôl cael eu sefydlu fel blaenoriaeth genedlaethol hollbwysig oherwydd y manteision diogelwch ynni, datgarboneiddio a fforddiadwyedd y maent yn eu darparu.

Mae solar yn darparu ffynhonnell ynni adnewyddadwy carbon isel sy’n rhatach ac yn gyflymach i’w defnyddio na dewisiadau eraill. Mae ynni solar yn un rhan o naw o gost nwy ac yn llai na thraean o ynni niwclear, gan ei wneud yn hanfodol ar gyfer lleihau allyriadau a darparu ynni fforddiadwy.

Ar hyn o bryd mae ffermydd solar yn cyfrif am tua 0.1% o gyfanswm arwynebedd tir y DU. Byddai targedau’r Llywodraeth ar gyfer cynnydd pum gwaith mewn ynni solar yn arwain at 0.3% o arwynebedd tir y DU yn cael ei ddefnyddio gan ynni solar (Carbon Brief, 2022). Mae hyn yn cyfateb i tua hanner y lle a ddefnyddir gan gyrsiau golff ar hyn o bryd. Mae pŵer solar eisoes yn cael effaith sylweddol. Rhwng Mehefin ac Awst 2024, darparodd hyd at 8% o drydan y DU, yn ôl tablau ynni adnewyddadwy Tueddiadau Ynni’r Llywodraeth (ODS)**.

*Gan dybio 15% capasiti/ffactor llwyth ar draws un flwyddyn yn seiliedig ar y defnydd trydan domestig cyfartalog fesul cartref (wedi’i gywiro ar gyfer tymheredd) yn unol â’r Defnydd Ynni yn y DU (a gyhoeddwyd ym mis Medi 2024, Tabl C9 o ECUK: Tablau data defnydd).

**Tueddiadau Ynni Rhagfyr 2024, Yr Adran Diogelwch Ynni a Sero Net (gov.uk/government/statistics/energy-trends-section-6-renewables)


Buddion cymunedol

Mae Fferm Solar Candwr yn falch o gyhoeddi y bydd cronfa budd cymunedol yn cael ei thalu’n flynyddol am hyd oes weithredol y safle, sef 40 mlynedd.

Bydd Grŵp Cyswllt Cymunedol annibynnol yn cael ei sefydlu i benderfynu sut y dylid llywodraethu’r gronfa budd cymunedol a sut y caiff ei gwario.


Manteision amgylcheddol

Mae gwaith yn parhau ar ddyluniad y cynllun i sicrhau y bydd y cynnig a gyflwynir yn sicrhau’r manteision amgylcheddol mwyaf posibl. Rydym yn ceisio sicrhau bod manteision y fferm solar yn cael eu gwireddu mewn ffordd gadarnhaol i’r gymuned gyfagos. Mae manteision ecolegol yn cael eu harchwilio trwy gynefinoedd newydd fel coetiroedd brodorol newydd, gwrychoedd brodorol a dolydd blodau gwyllt, gan ddarparu enillion net bioamrywiaeth. Bydd cadw gwrychoedd a choed presennol ochr yn ochr â’r llystyfiant newydd a blannir yn cynorthwyo i sgrinio golygon o’r safle.