Mae Fferm Solar Candwr yn gynllun ynni adnewyddadwy newydd ar ffin Torfaen, Sir Fynwy a Chasnewydd yn Ne Ddwyrain Cymru.

Rhowch eich cyfeiriad e-bost i gael yr wybodaeth ddiweddaraf  ar y cynigion.

Dim ond at ddibenion darparu gwybodaeth a diweddariadau ar Fferm Solar Candwr y bydd unrhyw gyfeiriadau e-bost a ddarperir yn cael eu defnyddio.

Mae rhagor o wybodaeth am y cynigion a’r broses ymgynghori ar gael ar Wefan Cynllunio Seilwaith Cenedlaethol y Llywodraeth.

Cliciwch isod am ddiweddariadau y prosiect.

2026

2025

Mae TotalEnergies wedi bod yn bresennol yn y DU ers dros 60 mlynedd.

Rydym yn ailddyfeisio ac yn arallgyfeirio ein cynnig ynni i hyrwyddo ynni adnewyddadwy a datgarboneiddiedig, yn ogystal â defnydd cynnil ac ystyriol o ynni ffosil.

Rydym yn gwneud buddsoddiadau mawr mewn ynni solar ac yn datblygu prosiectau ledled Cymru a Lloegr, sy’n cyfateb i tua 1GW o bŵer. Rydym hefyd wedi buddsoddi mewn sawl datblygiad gwynt alltraeth yn y DU a fydd â’r capasiti i ddarparu tua 5GW o bŵer adnewyddadwy, gan gynnwys Seagreen (1.1GW) a ddaeth yn gwbl weithredol yn 2023, West of Orkney (2GW) ac Outer Dowsing (1.5GW).

Rydym yn un o gyflenwyr nwy a thrydan mwyaf y DU i fusnesau a’r sector cyhoeddus. Rydym hefyd yn cynnig atebion gwefru cerbydau trydan ac yn marchnata cynhyrchion petrolewm gan gynnwys ireidiau, tanwydd awyrennau, bitwmen a hylifau arbenigol.